Y Llys yw grŵp rhanddeiliaid Prifysgol Bangor, ac mae'n darparu fforwm i aelodau'r gymuned ryngweithio â'r brifysgol. Mae’r Llys yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, aelodau Seneddol ac aelodau’r Senedd, y bwrdd iechyd lleol, cynrychiolwyr cyn-fyfyrwyr, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill.
Y Senedd yw awdurdod academaidd y brifysgol a dyma’r corff llywodraethol ar faterion sydd angen barn academaidd. Gall y Senedd hefyd drafod materion strategol sy’n effeithio ar y maes academaidd. Mae'r Senedd yn cytuno Penodiadau er Anrhydedd, sydd yn cydnabod cyfraniad gwirfoddol, di-dâl at weithgareddau ysgol neu'r brifysgol, ar argymhelliad Pennaeth Ysgol.